Rho gydwybod wedi chànu'n
Rho gydwybod wedi ei chànu

(Erfyniad am fyw dan ei gysgod ef)
1,2,3,4,(5,(6));  1,2,3,4,6;  1,2,3,5,6.
Rho gydwybod wedi ei chànu,
  Yn beraidd yn y dwyfol waed;
Cnawd a natur wedi eu maeddu,
  Clwyfau wedi cael iachâd:
    Minnau'n aros,
  Yn fy ninas fore a hwyr.

Dychwel im' gysuron gloyw
  Fel y dyddiau goreu erioed,
Gad im' gerdded fel yn fachgen,
  Etto unwaith wrth dy droed;
    A chael aros,
  Tan dy gysgod nos a dydd.

Dyma'r man dymunwn aros,
  O fewn pabell bur fy Nuw,
Uwch terfysgoedd yspryd euog
  A themtasiwn o bob rhyw,
    Tan awelon,
  Peraidd hyfryd tŷ fy Nhad.

Tan dy aden cedwir f'enaid,
  Yno'n unig byddai byw,
Tan dy aden y gwaredir,
  Fi o'r beiau gwaetha eu rhyw;
    'R wyt ti'n gysgod,
  Rhag euogrwydd yn ei rŷm.

Tan dy aden y rhyfelaf,
  Yno'n unig mae fy ngrym;
Tan dy aden y concweraf,
  Ynte ni orchfygaf ddim:
    Neb ond Iesu,
  Fostia'm henaid tra fwyf byw.

Mae deng myrddiwn o rinweddau
  Dwyfol yn ei enw pur;
Yn ei wedd mae tegwch rhagor,
  Nag a welodd môr na thir;
    Rhosyn Saron,
  Oll yn hawddgar yw efe.
wedi eu maeddu :: wedi darfod
fore a hwyr :: fore a nawn
tŷ fy Nhad :: tir fy ngwlad
y concweraf :: y gorchfygaf
ni choncweraf :: ni orchfygaf
Rhosyn Saron, \\ Oll yn hawddgar yw efe ::        
        Mo'i gyffelyb, \\ 'Rioed ni welodd nef y nef

- - - - -

(Heddwch cydwybod)
Rho gydwybod wedi chánu'n
  Beraidd yn y dwyfol waed;
Cnawd a natur wedi'u maeddu,
  Clwyfau wedi cael iachâd:
    Minnau'n aros,
  Yn fy ninas fore a hwyr.

Rho fy nwydau fel cantorion, 
  Oll yn chware'u bysedd cun,
Ar y delyn sydd yn seinio
  Enw Iesu mawr ei hun:
    Neb ond Iesu,
  Yn ddifyrwch ddydd a nos.

Gwna ddystawrwydd ar ganiadau
  Crâs afrywiog hen y byd;
Diffodd dân cynhyrfus natur,
  Sydd yn difa gras o hyd;
    Fel y gallwyf,
Glywed pur ganiadau'r nef.
William Williams 1717-91

Tonau [878747]:
Aslacton (<1875)
Upsal (<1875)

gwelir:
  Cudd fy meiau rhag y werin
  Gwyn a gwridog yw fy Arglwydd
  Mae deng myrddiwn o rinweddau
  Na'd fi Iesu fyn'd yn w'radwydd
  Nid oes pleser nid oes tegan
  Y mae syched ar fy nghalon

(Entreaty to live under his shadow)
 
Give a conscience having been bleached,
  Sweetly in the divine blood;
Flesh and nature having been beaten,
  Wounds having been healed:
    I staying,
  In my city morning and evening.

Return to me a shining comfort
  As the best days ever,
Let m walk like a boy,
  Once again at thy feet;
    And get to stay,
  Under thy shadow night and day.

Here is the place I would desire to stay,
  Within the pure tent of my God,
Above the tumults of a guilty spirit
  And temptations of every kind,
    Under the sweet,
  Delightful breezes of my Father's house.

Under thy wing my soul is to be kept,
  There alone I would live,
Under thy wing to be delivered
  Am I from the faults of the worst kind;
    Thou art a shade,
  Against guilt in its force.

Uner thy wing I will wonder,
  There alone is my force;
Under thy wing I will conquer,
  Or else not conquer anything:
    None but Jesus,
  Will my soul boast of while I live.

There are ten myriads of divine
  Wonders in his pure name;
In his countenance there is superior fairness,
  Than has sea or land seen;
    Rose of Sharon,
  All beautiful is he.
having been beaten :: having died away
morning and evening :: morning and afternoon
my Father's house :: territory of my land
I will conquer :: I will overcome
I will not conquer :: I will not overcome
Rose of Sharon, \\ All beautiful is he ::        
        Not his like, \\ Did the heaven of heaven ever see

- - - - -

(Peace of conscience)
Give a conscience bleached
  Sweetly in the divine blood;
Flesh and nature having been beaten,
  Wounds having been healed:
    I staying,
  In my city morning and evening.

Give my desires like singers,
  All playing their dear fingers,
On the harp which is sounding
  The name of great Jesus himself:
    None but Jesus,
  Delighting day and night.

Make a quietness in the old,
  Rough, surly songs of the world;
Extinguish the turbulent fire of nature,
  Which is destroying grace still;
    Thus I shall be able
  To hear the pure songs of heaven.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~